DPS1 Tirweddau Cymru

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith | Climate Change, Environment and Infrastructure Committee

Datgarboneiddio'r sector cyhoeddus | Decarbonising the public sector

Ymateb gan Tirweddau Cymru | Evidence from Landscapes Wales

Gan adeiladu ar waith Archwilio Cymru, hoffai’r Pwyllgor gael barn am y canlynol:

1. Beth yw eich barn am rôl Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus i gwblhau’r pum cam a nodwyd yn adroddiad Archwilio Cymru?

Mae Tirweddau Cymru Landscapes Wales (TCLW) yn bartneriaeth o’r wyth tirwedd dynodedig yng Nghymru, y pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE): Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy; a'r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae gan y tirweddau dynodedig rôl hollbwysig o ran cymryd camau ar yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae’r tirweddau dynodedig wedi ymrwymo i chwarae eu rhan i gyflawni ar y datganiadau hyn.

Mae sefydlu TCLW, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi cynyddu gallu’r tirweddau dynodedig i gyflawni yn erbyn polisïau allweddol Llywodraeth Cymru.

Mae TCLW yn helpu i ddatblygu diwylliant cadarn o gydweithio ac yn meithrin cysylltiadau mwy strwythuredig a chefnogol ar draws y cyrff sy’n ymwneud â’r dirwedd, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae TCLW yn gweithredu fel cyfrwng cydweithredol i’r cyrff sy’n rheoli tirweddau dynodedig fynd i’r afael â’r heriau allweddol, yn enwedig newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio, adfer byd natur, twristiaeth gynaliadwy a themâu allweddol eraill. 

Sefydliadau bach yw’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, o gymharu â chyrff cyhoeddus eraill megis Awdurdodau Lleol a’r Byrddau Iechyd o ran adnoddau cyllidebol a staffio. Er bod gennym hanes da o gyflawni, yn enwedig o ystyried yr adnoddau sydd ar gael gennym, mewn rhai achosion mae'n dod yn heriol i gwrdd â rhai o'r heriau llywodraethu a'r heriau strategol allweddol sy'n ofynnol i fodloni dyheadau cenedlaethol a lleol.

I gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi sefydlu tîm o gydlynwyr tirweddau strategol yn gweithio ar hyd a lled Cymru i gyflawni ar faterion adfer byd natur, hinsawdd a llywodraethu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy, sy’n rhoi ffynhonnell o gyllid cyfalaf i dirweddau dynodedig wneud gwaith ar ddatgarboneiddio, ynghyd ag adfer byd natur a thwristiaeth gynaliadwy.

Mae’r gronfa hon wedi galluogi’r wyth tirwedd i ymgymryd ag ystod o brosiectau datgarboneiddio gan gynnwys:

•             lleihau ôl-troed carbon ein gweithrediadau: gan gynnwys prosiectau adeiladu gwyrdd - ôl-osod adeiladau, ynni adnewyddadwy, a chomisiynu adolygiadau gwaelodlin carbon, a disodli offer ag offer di-allyriadau carbon.

•             gweithredu ar yr argymhellion o astudiaethau cydweithredol ar waelodlin carbon a chynlluniau gweithredu ar leihau carbon i roi’r llwybrau i ni i sero net. 

•             adfer a diogelu’r mawndiroedd.

•             prynu tir a rheoli tir ar gyfer atafaelu carbon.

•             datblygu meithrinfeydd rhywogaethau coed brodorol.

•             gweithio ar y cyd fel Prosiect Nos; lleihau llygredd golau a lleihau allyriadau carbon.

•             ymgysylltu â Phanel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol a chyfrannu at y Map Trywydd Datgarboneiddio.

•             rhoi camau gweithredu a rhaglenni teithio cynaliadwy ar waith.

•             cydweithio ag awdurdodau lleol i ddarparu rhwydwaith cydlynol o wefru cerbydau trydan.

•             gweithio i gysylltu opsiynau teithio â’r atyniadau presennol.

•             cefnogi ymddiriedolaethau teithio lleol a thrafod cyfleoedd gydag Adran Drafnidiaeth yr Awdurdod Lleol.

 

2. Beth yw eich barn am ddefnyddio Statws carbon sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru, fel ffordd o roi cyfeiriad strategol i gyrff cyhoeddus?

Mae map trywydd Sero Net Llywodraeth Cymru erbyn 2030 yn fframwaith angenrheidiol ond annigonol ar gyfer camau gweithredu gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ar newid yn yr hinsawdd.

Mae allyriadau carbon y sector cyhoeddus yng Nghymru ei hun yn bwysig, a rhaid eu lleihau nid yn unig o ran y carbon a arbedir yn uniongyrchol, ond hefyd i osod esiampl, i ysgogi arloesedd technolegol, a helpu i lywio marchnadoedd carbon isel, megis mewn cerbydau trydan.

Ond canfu’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd bod mwy na hanner o’r toriadau allyriadau sydd eu hangen yn y DU yn dibynnu ar bobl a busnesau yn defnyddio atebion carbon isel – penderfyniadau a wneir ar lefel leol ac unigol. Mae llawer o'r penderfyniadau hyn yn dibynnu ar gael seilwaith a systemau ategol yn eu lle. Mae awdurdodau lleol yn unigryw gan fod ganddynt bwerau neu ddylanwad dros tua thraean o’r allyriadau yn eu hardaloedd lleol .

Mae awdurdodau lleol yn cydlynu’r camau gweithredu lleol yn systematig i wneud y peth iawn yn beth hawdd i'w wneud ar draws cymdeithas yn hanfodol felly i Gymru lwyddo i wneud y gostyngiadau carbon sydd eu hangen.

Mae rôl ehangach y sector cyhoeddus sy’n seiliedig ar le yn bwysig i dirweddau dynodedig yng Nghymru. Er enghraifft , mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Barciau Cenedlaethol Cymru yn eu Llythyr Cylch Gwaith ar gyfer Tymor y Llywodraeth (Mai 2022): “ Yn benodol, rwyf am weld Parciau Cenedlaethol yn dod yn esiamplau o ran ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur. Rydych chi mewn sefyllfa unigryw i ymgysylltu â’r cymunedau o fewn eich ffiniau i ddatblygu atebion sy’n sicrhau buddion i bobl ac i’r amgylchedd.”

Felly mae angen mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar le i arwain y gwaith o leihau allyriadau carbon ar draws y tirweddau dynodedig, nid dim ond canolbwyntio ar ein hallyriadau ni ein hunain.

Rhaid i “dod yn esiamplau” olygu ymdrechu i’r eithaf tuag at neu y tu hwnt i’n cyfran deg o gamau gweithredu i haneru allyriadau byd-eang erbyn 2030, yn unol â nod Cytundeb Paris o gyfyngu ar godiadau tymheredd byd-eang i 1.5 gradd. Mae pob Parc Cenedlaethol yn y DU wedi cael cyngor arbenigol ar ôl troed carbon pob ardal a’r trywydd sydd angen ei ddilyn i leihau allyriadau carbon yn yr ardal honno i gyd-fynd â Chytundeb Paris. Er mwyn llwyddo i gyflawni’r gostyngiadau allyriadau a nodir yn y cyngor hwnnw, mae angen i ni weithio gyda’r sector cyhoeddus, ac yn enwedig awdurdodau lleol, i gydgysylltu’r atebion sy’n seiliedig ar le.

Mae sawl awdurdod sy’n cynnal AHNE wedi cymryd y cam o ddatgan Argyfwng Hinsawdd, ac mae AHNEau yn dangos parodrwydd i weithredu i wneud iawn am y dirywiad mewn rhywogaethau a chynefinoedd o fewn cyd-destun ymateb ehangach i newid hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod pob cynllun rheoli AHNE yn cynnwys mesurau ystyrlon ynghylch lliniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys targedau clir, mesuradwy i gefnogi Sero Net erbyn 2024.

Felly, mae’r ffocws ar ddatgarboneiddio gweithredol ar gyfer y sector cyhoeddus fel a ganlyn:

1. Colli cyfle oherwydd bod gan y sector cyhoeddus rôl lawer mwy o ran arwain y gwaith o leihau allyriadau carbon yn y gymdeithas gyfan.

2. Problem i dirweddau dynodedig oherwydd mae arnom angen fframwaith cyffredin ar gyfer lleihau allyriadau ar sail ardal os ydym am weithio’n llwyddiannus gyda rhannau eraill o’r sector cyhoeddus i dorri allyriadau yn ein hardaloedd.

Mae angen eglurder ynghylch sut mae sefydliadau yn cyflawni’r uchelgais sero net erbyn 2030. Mae nifer o’r Tirweddau Dynodedig yng Nghymru wedi comisiynu adroddiad drwy TCLW, sy’n rhoi map trywydd iddynt ar y modd y gallant gyflawni dyhead 2030. Drwy'r broses hon maent yn datblygu cynlluniau a phrosiectau i ymgymryd â gwaith dros yr wyth mlynedd nesaf.

 

3. Beth yw eich barn am y cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus yn y meysydd gweithredu â blaenoriaeth a nodir yn y ddogfen: caffael cynaliadwy, adeiladau sero net, symudedd a thrafnidiaeth, a defnydd tir?

Dim sylw

4. Beth yw eich barn am y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhrau cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys unrhyw fylchau?

Mae TCLW yn cyflawni prosiectau a gefnogir gan raglen Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (SLSP), sef cronfa buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru sydd wedi’i rhannu ar draws pob tirwedd sydd hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau cydweithredol ar draws tirweddau lluosog.

Mae SLSP yn gweithio ar bedair thema:

•             Hyrwyddo Bioamrywiaeth ac adferiad byd natur - gan gynnwys prosiectau sy'n gwella cysylltedd a chydnerthedd ecosystemau mewn ardaloedd dynodedig, a/neu ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

•             Cyflymu Datgarboneiddio – drwy ddatgarboneiddio gweithgarwch ac asedau’r Awdurdod tuag at sero net, cynlluniau i alluogi datgarboneiddio mewn cymunedau gan gynnwys ynni adnewyddadwy priodol, a chynlluniau atafaelu carbon yn y dirwedd.

•             Cefnogi Cymunedau Cydnerth a Gwyrdd - galluogi cyrff tirweddau dynodedig i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol neu economaidd ar gyfer eu cymunedau.

•             Darparu twristiaeth gynaliadwy - gan gynnwys lliniaru effeithiau negyddol gor-dwristiaeth, uwchraddio cyfleusterau a seilwaith ymwelwyr lle mae blaenoriaethau a sensitifrwydd lleol yn cefnogi hyn ac mewn modd amgylcheddol sensitif, cydnerth a pharhaol, gan helpu tirweddau i adfer ac addasu i batrymau twristiaeth newidiol yn ystod ac yn dilyn Covid; a gwella a diogelu asedau diwylliannol a threftadaeth gwerthfawr. 

Mae'r gronfa SLSP wedi symud yn ddiweddar o gronfa prosiect un flwyddyn i raglen ariannu tair blynedd. Mae hyn yn ein helpu i adeiladu ar y ddau gylch cyllido blaenorol dros un flwyddyn ac yn caniatáu i’r Tirweddau Dynodedig gynllunio yn fwy strategol a chyflawni rhaglenni tymor hwy gyda phartneriaethau cryfach dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) wedi cefnogi prosiectau ynni arloesol a rhagweithiol a arweinir gan y gymuned. Lle mae’r gronfa datblygu cynaliadwy wedi’i thargedu i gefnogi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, mae’r gronfa wedi’i gordanysgrifio.

Mae TCLW yn cyfrannu at y targedau ar gyfer ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol.

Dylai Llywodraeth Cymru ariannu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu pecyn o gymorth gan gymheiriaid, gwybodaeth a hyfforddiant sgiliau, a chydgysylltu ar gyfer gweithredu ar sail ardal ar y newid yn yr hinsawdd – sy’n ehangach na’r ffocws presennol ar allyriadau gweithredol.

Dylai’r gefnogaeth fanteisio ar yr adnoddau profedig presennol a ddatblygwyd ar gyfer aelodau llywodraeth leol o’r Ras i Sero o bedwar ban byd – gan ddysgu o’r enghreifftiau mwyaf datblygedig, a chymhwyso gwersi perthnasol i’r cyd-destun Cymreig.

 

5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu codi o fewn cwmpas yr ymchwiliad hwn?

Dylai cwmpas yr ymchwiliad ymwneud â rôl y sector cyhoeddus o ran cyflawni nodau hinsawdd Cymru – nid canolbwyntio’n unig ar lwyddiant neu fethiant targed Sero Net y Sector Cyhoeddus erbyn y targed 2030.

Cyfeiriad:

Pwyllgor Newid Hinsawdd: Awdurdodau Lleol a’r chweched gyllideb garbon: https://www.theccc.org.uk/publication/local-authorities-and-the-sixth-carbon-budget/

 

Datganiad Colchester : : Cymdeithas Genedlaethol Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol https://landscapesforlife.org.uk/projects/colchester-declaration